
Diwrnod lansio’r ymgyrch yn Ysgol Henllan
CAMAU BACH, NEWID MAWR
YMGYRCH YSGOLION CYNRADD FFIT CYMRU 2019
Fysech chi’n hoffi gweld gwahaniaeth yn ymddygiad plant eich ysgol chi?
Mae un o bob pedwar plentyn pedair i bump oed yng Nghymru yn ordew – mae hyn yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr.
Rydym yn gwybod bod dros 80% o’r rhai sy’n ordew yn bedair neu’n bum mlwydd oed yn aros yn ordew . Mae plant sydd dros eu pwysau yn datblygu cyflyrau ac afiechydon sydd fel arfer yn cael eu cysylltu ag oedolion, er enghraifft diabetes Math 2.
Yn cyd-fynd a chynllun ‘Ysgolion Iach’ Iechyd Cyhoeddus Cymru, gobaith Ymgyrch Ysgol FFIT Cymru 2019 yw helpu i ddod a’r ffigyrau yna i lawr trwy gyd-weithio gydag ysgolion cynradd trwy rannu gwybodaeth am sut i fyw bywyd iach drwy gymryd camau bychan all wneud gwahaniaeth mawr yn yr hir-dymor.
Yn ôl adroddiad ‘Pwysau Iach, Cymru Iach (Llywodraeth), fe ddylai pob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd gyda mwy o gymorth ar gyfer y blynyddoedd cynnar a mae 88% o Gymry a holwyd gan y Llywodraeth fel rhan o’r adroddiad yn cytuno y dylai ysgolion ddysgu mwy i blant am sut i fyw bywyd iach. Mae Ymgyrch FFIT Cymru yn gobeithio cefnogi y datganiad hwn.
Rydym ni’n annog disgyblion yn y blynyddoedd cynnar i gael arferion iach yn ystod darllediad y gyfres. Y nod hir dymor yw y byddai’r ysgol yn fodlon parhau gyda gweithgaredd iach FFIT Cymru.
GWEITHGAREDDAU POSIB
Os ydych chi eisiau cymryd rhan, beth am wneud gweithgareddau sy’n hybu bwyta’n iach a bod yn egnïol yn eich ysgol dan frand FFIT Cymru yn ystod cyfnod darlledu y gyfres ar S4C.
- annog cynllun ‘Milltir y Dydd’ (‘Daily Mile’);
- gwers goginio iach syml (opsiwn mynd i gartref disgybl at y rhieni a’r plentyn yn cael cwcio rhywbeth syml adref),
- hybu bocs bwyd iach – cynnig syniadau ar beth i’w roi ynddo;
- cynnal siop yn yr ysgol yn gwerthu ffrwythau (gyda brand FFIT Cymru);
- annog i yfed mwy o ddŵr tap;
- ymarferion syml i neud ar yr un amser bob dydd e.e ysgwyd y corff neu ioga syml;
- addysgu disgyblion ynglŷn â chynnal pwysau iach;
- amseroedd penodol ar gyfer gweithgaredd corfforol bob dydd mewn ysgolion cynradd;
- annog disgyblion i gerdded neu beicio i’r ysgol;
- annog disgyblion gael dweud eu dweud ynglŷn â gwneud eu hysgolion yn iachach a holi’r plant am syniadau.
ADNODDAU
Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru
Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy (PDF)
Trywydd Anser Sgrîn a Chwarae Tu Allan (PDF)
CEFNOGAETH
Mae ymgyrch hon gydag arweiniad gan Sioned Quirke, dietegydd FFIT Cymru a chyfrannydd adroddiad diweddar y Llywodraeth ar or-dewdra ‘Pwysau Iach Cymru Iach’ a lawnswyd fis Ionawr. Mewn partneriaeth gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru – ymgyrch Ysgol Iach ac ymgyrch ‘Pob Plentyn’.