Cynllun Soffa i 5km Rae Carpenter ar gyfer FFITCymru
Mae cynllun cardio Rae yn rhaglen i’ch cael chi o’r soffa i redeg 5km mewn cyfnod o 6 wythnos.
Mae’r cynllun yn cynnwys cerdded a jogian/rhedeg mewn ysbeidiau (intervals). Maen nhw’n ysbeidiau cynyddol – i chi allu canolbwyntio ar yr amser yr ydych chi’n gallu jogian/rhedeg, yn hytrach na’r pellter. Wrth i chi gynyddu ar eich cyflymdra yn ystod yr amser jogian/rhedeg fe fyddwch yn naturiol yn gwella ar eich pellter.
Byddwch yn cwblhau 3 diwrnod o cardio yr wythnos os ydych chi’n dilyn cynllun un o’r pum arweinydd (ynghyd â’u cynllun ymwrthiant). Ac felly fe fyddwch yn adeiladu ar eich ffitrwydd a’ch cryfder dros yr wythnosau nesaf fel eich bod chi’n gallu cwblhau’r 5km. Mae’r cynllun yn gweithio! Rhowch ffydd ynddi! Ac ewch amdani!
Tanysgrifiwch!
Mewn cydweithrediad gyda Say Something In Welsh, mae FFIT Cymru wedi cynhyrchu fersiwn newydd o’r podlediad poblogaidd “Soffa i 5K” yn arbennig ar gyfer dysgwyr neu unigolion sy’n llai rhugl yn y Gymraeg.
Bydd Rae yn eich arwain cam wrth gam trwy’r broses o ddod yn fwy ffit mewn ffordd hawdd i’w ddeall i’ch helpu chi ddysgu wrth redeg.
Tanysgrifiwch!