Bydd 5 Arweinydd FFIT Cymru yn ceisio cwblhau uchafbwynt eu her ffitrwydd sef ‘Her 5K Genedlaethol FFIT Cymru’. A mae modd i chi hefyd gymryd rhan, beth bynnag yw eich lefel ffitrwydd!
PRYD?
Be am fod yn rhan o Her 5k Cenedlaethol FFIT Cymru? Gallwch gerdded neu redeg 5 kilomedr yn eich ardal leol unrhyw dro rhwng Mai 9fed a hanner dydd Mai 15fed, 2021.
COFRESTRU
Cofrestrwch nawr ar y wefan yma
Dyddiad cau: Mai 7, 2021
CWESTIYNAU?
Beth ydi Her 5K Cenedlaethol FFIT Cymru?
Her ‘rithiol’ yw hon sydd yn golygu y bydd unrhywun yn gallu cymeryd rhan yn eu ardal leol rhwng Mai 9fed a hanner dydd ar Mai 15fed.
Oes rhaid i mi fod wedi rhedeg o’r blaen?
Nagoes! Mae’r digwyddiad yma yn agored i bawb, o unrhyw lefel ffitrwydd.
Gai rhedeg ar treadmill?
Cei! Croeso i ti rhedeg neu gerdded y 5k tu mewn neu y tu allan yn Her cenedlaethol 5K FFIT Cymru!
Sut ydw i yn cael bod yn rhan o Her Cenedlaethol 5k FFIT Cymru?
Cofrestra ar y wefan yma cyn Mai 7fed i dderbyn dy Grys T a rhif unigryw, yna bydd gofyn iti gyflawni 5k drwy rhedeg neu gerdded yn dy ardal leol rhwng Mai 9fed a hanner dydd Mai 15fed.
Oes rhaid i mi wneud unrhywbeth arall?
Oes plîs! I fod yn rhan o’r rhaglen, rydym yn gofyn yn garedig iti yrru llun neu fidio ohonot yn cyflawni y her i ffitcymru@cwmnida.tv neu drwy gyfrifon cymdeithasol @ffitcymru a chofrestru dy daith ar wefan parkrun.
CYNLLUN RHEDEG
Os nad wyt ti wedi rhedeg o’r blaen, dilyna gynllun rhedeg Soffa i 5K wedi ei gynllunio gan Rae Carpenter, hyfforddwr personol FFIT Cymru.
Linc Spotify podlediad 1
Linc Spotify podeldaid 2 (i ddysgwyr)
Os hoffech unrhyw fanylion pellach, cysylltwch a’r tim cynhyrchu ar ffitcymru@cwmnida.tv
Amdani!