Mewn partneriaeth gyda’r Urdd, bydd FFIT Cymru yn cynnal cystadleuaeth arbennig eleni ar gyfer plant a phobl ifanc blwyddyn 1 i 13.
Y GYSTADLEUAETH?
Creu fidio ffitrwydd (tebyg i sesiwn HIIT/’circuit’/dawns) hyd at 5 munud o hyd. Gellir cystadlu fel unigolyn neu fel grwp
OED
Bydd dwy adran – Cynradd ac Uwchradd (oed blwyddyn 1 i 13)
BEIRNIAD
Rae Carpenter, hyfforddwr personol FFIT Cymru
CANLLAWIAU
Mae cyfle yma i chi fod yn greadigol
Dim defnyddio unryyw offer, dim ond eich cyrff.
Rhaid sicrhau bod y gweithgaredd yn saff – bod digon o le o’ch cwmpas, dim llawr lithrig, bod pawb yn gwisgo dillad addas.
O ran cynnwys, bydd angen ystyried cynhesu y corff ar gychwyn y sesiwn ac oeri y corff (‘cool down’) ar ei ddiwedd.
Gellir cynnwys rhywun arall, neu ymarfer ar y cyd neu efo pobl eraill (os yw’n saff i wneud dan gyfyngiadau Covid)
Bydd angen dilyn rheolau Covid yn gyffredinol drwy’r gweithgaredd e.e os penderfynu ffilmio y fidio yn yr ysgol, annog neud tu allan. Cadw 2 medr i ffwrdd.
DYDDIAD CAU
Anfonwch eich fideos i mewn ar ebost i cyfansoddi@urdd.org erbyn 12p.m, Mai 14, 2021
CYHOEDDI’R ENILLYDD
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod wythnos Eisteddfod T (Mai 21 – Mehefin 4,2021) gyda gweddill enillwyr y cystadlaethau gwaith cartref. Bydd y canlyniadau yma’n ymddangos ar wefan yr Urdd, Ap Eisteddfod T a gwefan FFIT Cymru. Bydd y fidio llwyddianus yn ymddangos ar y dudalen hon hefyd. Pob lwc!