S4C

Navigation

Ffitrwydd. Iechyd. Trawsnewid

Ffitrwydd. Iechyd. Trawsnewid.

Arweinwyr

Emlyn Bailey

Dw i’n sbio ar fy hun yn mirror a meddwl ‘oh my God, am embarassing'”

Wyth mlynedd yn ôl collodd Emlyn ei dad oedd yn 53 ar y pryd o gancr yr ysgyfaint. Roedd colli ei dad oedd mewn oedran mor ifanc wedi’i ddychryn a tydi o ddim eisiau run fath ddigwydd iddo fo. Hoffai Emlyn fod yma i weld ei wyrion a’i wyresau yn tyfu fyny gan na chafodd ei dad y cyfle hwn.

Roedd ei dad yn ddringwr mawr ac yn aelod o dîm achub mynydd ac fel teyrnged i’w dad ymunodd Emlyn â Thim Achub Mynydd Aberglaslyn 7 mlynedd yn ôl. Mae’n cyfaddef ei hun nad ydio’n ddigon ffit i fod ar y tîm achub mynydd;

“Dw i reit embarrassed. Os dwi’n mynd ar y mynydd dw i reit yn y cefn fel arfer, slo bach yn cefn. Dw i’n teimlo reit unfit a dros fy mhwysau”.
Tydi o ddim yn teimlo’n ddigon ffit i fynychu’r sesiynau hyfforddi ar hyn o bryd gan fod ganddo gywilydd ac ddim eisiau neb i’w bryfocio ei fod allan o wynt. Mae felly’n helpu gyda’r galwadau o’r swyddfa ond gôl mawr Emlyn un diwrnod fyddai medru ymuno â’r criw ar alwadau a mynd fyny’r mynyddoedd i helpu achub pobl.
Mae Emlyn hefyd yn achub bywydau yn ei waith bob dydd ac yn hyfforddi i fod yn barafeddyg. Mae’n cael cryn drafferth gyda gwaith corfforol y swydd hon ar brydiau ac yn medru teimlo ei hun yn chwysu chwartiau wrth ddelio â rhywun sydd wedi cael ‘cardiac arrest’.
Mae’n dueddol o fwyta mwy pan mae o ar shifft ac yn syth ar ôl shifft; kebabs, porc peis, 2 far o siocled ac mae’n cael Mc Donald’s tua pedair gwaith yr wythnos yn ddibynnol ar sut ddiwrnod mae o wedi’i gael.

Mae’r pwysau yn effeithio arno mewn amryw ffyrdd eraill hefyd;

“Pwysa’ wedi stopio fi neud lot efo’r plant, yn enwedig darllen stori yn nos a rhoid nhw yn gwely, dw i ofn torri y gwely wrth bwyso arno.”
Mae hefyd yn effeithio ar y ffordd mae’n gweld ei hun;
“Dw i’n sbio ar fy hun yn mirror a meddwl oh my god, am embarassing a gweld bol a gwyneb ‘di chwyddo. Dio’m yn edrych yn neis iawn”.
Byddai wrth ei fodd medru colli pwysau, medru teimlo’n ffit, edrych yn well cael digon o egni i wneud pethau a medru dod o hyd i ffordd o fyw fydd y teulu cyfan yn medru ei ddilyn.

Cynllun Emlyn

Mared Fôn Owen

“Dwisho medru sbio nôl ar y llun graddio a meddwl – o ni’n edrych yn ddel yn fanna a dim ei roi o mewn bocs mewn cornel arall yn y stafall”

Gôl fawr Mared ydi colli pwysau ar gyfer ei llun graddio fydd yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf eleni. Mae hi eisiau medru edrych yn ôl ar y llun gyda balchder nid â chywilydd.

Un o Fodedern ydi Mared yn wreiddiol ond mae hi bellach yn byw ym Mangor gyda 6 o fyfyrwyr eraill – 6 o ferched ac 1 bachgen. Mae hi’n astudio Cymraeg ac yn gobeithio mynd i wneud ymarfer dysgu y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn ei phryderu;
“Chai byth swydd fel athrawes y maint ydw i rŵan”.

Mae hi wedi byw ei bywyd coleg i’r eithaf; gormod o “take aways”, McDonalds yn bennaf, yfed llwyth o jagerbombs a galwyni o seidr. Does ganddi ddim math o drefn yn ei bywyd; pan mae hi’n gweithio mae hi’n snacio drwy’r dydd, tydi hi byth yn cael swper call ac fel arfer mae hi’n teimlo’n llwglyd tua 10 yr hwyr. ac yn cael cebab.

Mae ganddi fywyd prysur iawn ac yn jyglo gwaith coleg, 2 swydd a chanu gyda Côr JMJ.
Mae ganddi broblemau iechyd mawr: pwysau gwaed uchel, asthma a sgoliosis sy’n golygu bod ei hasgwrn cefn yn crymu i’r ochr sy’n achosi poenau cefn iddi. Mae ei ffêr o hyd wedi chwyddo felly mae’n rhaid iddi wisgo fflip fflops bron iawn bob amser – boed law neu hindda.

Arferai fod yn eithaf ffit yn yr ysgol ac roedd hi’n hoff o chwarae pêl-droed, pêl-rwyd a hoci ond wrth iddi fynd ati i astudio ar gyfer lefel-A bu’n rhaid iddi roi mwy o amser i adolygu na chadw’n heini. Pentyrrodd y pwysau ymlaen pan oedd hi yn y chweched dosbarth yn Ysgol Bodedern a rhoddodd fwy o bwysau ymlaen yn y Brifysgol.

Mae hi’n dweud bod yn rhaid iddi wneud rhywbeth am ei phwysau cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Cynllun Mared

David Roberts

“Mae FFIT Cymru yn barod wedi achub fy mywyd”

Un o Landudno ydi David yn wreiddiol ond ers 25 o flynyddoedd mae o wedi ymgartrefu yng Nghaerffili. Mae’n byw yno gyda’i wraig Julia a’i ddau o blant – Aled (16) a Ffion (12). Yn ei swydd pob dydd mae’n Ddirprwy Brifathro yn Ysgol Gynradd Heol y Celyn, Pontypridd.

Mae David yn credu bod derbyn y gwahoddiad i ddiwrnod asesu FFIT Cymru wedi achub ei fywyd. Yn ystod y diwrnod, cymerodd y parafeddygon ei bwysau gwaed. Roedd ei bwysau gwaed mor uchel nes bod y parafeddygon wedi gorfod ei gynghori i beidio cymryd rhan yn yr her 1k.

“O ni’n agos iawn i gael strôc neu drawiad ar y galon!”

Cafodd David ddipyn o sioc pan alwodd Lisa Gwilym yn ei gartref i dorri’r newyddion ei fod wedi’i ddewis yn un o 5 arweinwyr FFIT Cymru! “Dwi’n meddwl mai fi ydi un o bobl mwya “unfit” Cymru ar hyn o bryd!”

Arferai David fod yn ffit iawn pan yn fengach, roedd yn chwarae pêl-droed i safon uchel ac yn cynrychioli ei sir mewn athletau. Ers rhoi’r gorau i chwarae pel-droed 25 mlynedd yn ôl mae’r pwysau wedi pentyrru ymlaen dros y blynyddoedd; “Dwi’r trymaf dwi erioed wedi bod”.

Mae ei blant ar y llaw arall yn actif; ei fab, Aled yn beicio milltiroedd bob wythnos ac yn aelod o glwb beicio a’i ferch Ffion yn hoff o chwarae pêl-droed. Bob blwyddyn cynhelir gêm bêl-droed; y plant yn erbyn y rhieni. Llynedd bu’n rhaid i David ddod oddi ar y cae 10 munud mewn i’r gêm gan ei fod yn chwysu gymaint a galwodd Ffion ei thad yn “embarassing”.

Mae Ffion yn dioddef o gyflwr Hyperinsulinism-Hypoglycemia (HI) sy’n golygu bod ei chorff yn cynhyrchu gormod o inswlin. Mae’n rhaid iddi fwyta deiet sy’n uchel mewn carbohydradau er mwyn i’w lefelau fod yn gytbwys. Yn ddiweddar mae hi a’i rhieni wedi sylwi ei bod hi’n magu pwysau (sy’n gallu digwydd gyda’r cyflwr hwn) ac mae hi’n awyddus i gychwyn rhedeg gyda’i thad.

Bob wythnos mae grŵp o feicwyr lleol yn mynd i feicio ond mae David wedi gorfod stopio gan ei fod yn teimlo ei fod yn dal pawb o’r grwp yn ôl gan ei fod yn araf ac yn mynd allan o wynt. Hoffai David fedru ail ymuno â’r grwp a chael yr un stamina a phawb arall.

 

Dathlodd David benblwydd arbennig yn 50 eleni ac mae wedi penderfynu mai hon ydi’r flwyddyn iddo newid ei ffordd o fyw.

Cynllun David

Annaly Jones

“Mwy fi’n mynd, nid llai… Os fi’n hapus fi’n buta, os fi’n drist fi’n buta, os fi’n stressed fi’n buta”

Yn fam sengl i 3 o fechgyn (13 oed, 11 oed a 9 oed) mae Annaly Jones o Gaerfyrddin wedi cael blynyddoedd caled iawn yn ei 30au. Bu drwy ddau ysgariad a collodd ei thad i gancr yn 2017. Mae hi’n cyfaddef ei hun ei bod hi wedi defnyddio bwyd a diod fel cysur trwy’r cyfnodau anodd hyn. Mae hi wedi llwyddo i reoli faint mae hi’n ei yfed ond yn cael trafferth rheoli faint mae hi’n ei fwyta.

Mae hi eisiau’r “Hen Annaly” yn ôl. Yr Annaly oedd yn llawn bywyd, yr Annaly gryf oedd wastad yn “Life of the party”. Mae hi wir angen ail-ddarganfod ei hun.

Mae hi’n dacsi prysur iawn i’w meibion yn eu danfon o le i le; ymarferion rygbi a phêl-droed a nofio ymysg pethau eraill. Ynghanol y prysurdeb mae hi wastad yn dod o hyd i amser i goginio ac yn coginio pob dim yn ffres. Erbyn y nos mae hi’n teimlo’r unigrwydd ac yn cysuro ei hun trwy fwyta o flaen y teledu. Mae hi’n cyfaddef ei hun ei bod hi wastad yn pigo neu “scwlgan” bwyd – “leftovers” y bechgyn, creision, losin, cracers a chaws.

Tydi hi methu dod o hyd i’r amser i wneud unrhyw ymarfer corff felly mae hi angen rŵtin gwell yn ei bywyd a gwneud amser i ymarfer corff. Mae hi wastad “on the go” hefo’r hogiau felly angen gwneud amser i hi ei hun.

Arferai chwarae pêl rwyd ac roedd hi’n mwynhau mynd i nofio ond mae hi’n teimlo ei bod angen ail ddarganfod yr hyder i fedru rhoi siwt nofio ymlaen a mynd i nofio. Yr hyn mae hi angen ydi rhywun i ddangos y camau cyntaf iddi er mwyn gwneud gweithgareddau gwahanol a dechrau ar y siwrnai i gael yr hen Annaly yn ôl.

Mae ganddi gôl bersonol o gerdded i gopa Pen y Fan gyda’i meibion.

Cynllun Annaly

Matthew Jones

“Dyma be dwi angen: rhywun i ddweud wrthai dyma be ti’n neud, dyma pryd a dyma be ti’n fwyta. Dyna beth fi’n barod amdano ac yn barod i roi 110%”

Mae Matthew yn byw yn Aberystwyth ac wedi aros yno ers iddo astudio drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cafodd ei eni a’i fagu ym Mhontypŵl ond collodd ei fam o gancr pan oedd yn ifanc iawn felly ei dad wnaeth ei fagu. Mae ganddo chwaer sydd dal i fyw ym Mhontypŵl, ac mae ganddo feddwl mawr o’i ddwy nith.
Mae gordewdra yn broblem yn y teulu; cafodd ei dad 2 strôc fach yn ddiweddar ac fe fu farw ei fodryb o ganlyniad i broblemau gyda’i phwysau. Mae’n teimlo bod yr amser wedi dod iddo wneud rhywbeth am ei bwysau ei hun ac mae’n gobeithio medru helpu aelodau eraill o’i deulu yr un ffordd.

 

“Dwi wedi gweld cymaint o or-dewdra yn fy nheulu a’r effaith erchyll sydd wedi bod o ganlyniad i hynny ee clefyd y siwgr, canser a strokes. Dwi ddim eisiau i hwna ddigwydd i fi”.

Tydi Matthew erioed wedi bod yn berson ffit ac roedd y bwlis yn dueddol o gymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol felly roedd yn osgoi cymryd rhan bob wythnos. Roedd yn dweud wrth yr athro bod ganddo broblemau poen cefn er mwyn cael ei esgusodi o’r dosbarth. Os ydi o’n gwneud unrhyw fath o ymarfer corff y dyddiau hyn mae’n teimlo bod hyn yn esgus iddo gael bwyta llwyth wedyn.

Pan mae’n edrych yn y drych, mae’n gweld rhywun tew, allan o siap. Hoffai weld rhywun “secsi a fit”.

Dwi’n credu mod i’n berson sydd byth wedi deall sut mae cadw at rwtîn, neu byth wedi rhoi digon o ymdrech mewn i ddatblygu meddylfryd i gadw at ymarfer corff neu fwyta’n iach. Does gen i ddim ofn gwneud unrhywbeth, ond mae edrych yn ôl ar luniau o fy hunan yn neud i fi deimlo’n horrible!

Ei gôl ydi medru gwisgo siwt smart, ond ar hyn o bryd mae’n gallu gweld ei “moobs” ac yn “teimlo fel fraudster mewn siwt”. Mae ei ffrind gwaith, Gwenllian, yn priodi eleni ac mae hithau dros ei phwysau ac mae hi’n fodlon dilyn y cynllun gydag o.

Mae ei bartner, Connor yn byw rhyw 5 munud i ffwrdd ac mae nhw wedi bod mewn perthynas ers dros flwyddyn.

Nid dim ond rhywbeth am 7 wythnos fydd hyn i Matthew, mae’n chwilio am gymorth i newid ei ffordd o fyw a ffordd o feddwl er mwyn iddo newid ei fywyd am byth. Mae’n gweld hyn fel cyfle bythgofiadwy i gael cymorth ac mae wrth ei fodd medru gwneud hyn drwy gyfrwng Y Gymraeg.

Cynllun Matthew


Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?

Gwefan Newydd