Y Tîm
Hyfforddwr Personol: Rae Carpenter
Dwi’n gweithio yn y gymuned, i’r gymuned, gyda’r gymuned ar ei hiechyd a’u ffitrwydd. Mae bywyd yn fyr. Heb symud ein cyrff a bwyta’n iach, mae’n fyrrach byth. Nes i drawsnewid fy mywyd i. A nawr dwi’n helpu eraill i drawsnewid eu bywydau nhw am y gore.
Hyfforddwr Personol a Ffitrwydd yw Rae Carpenter sy’n wreiddiol o Gaerdydd, ond bellach yn byw yn Y Barri. Hefyd yn actores a chyflwynydd, mae wedi ymddangos droeon ar radio a theledu yng Nghymru a thu hwnt, a bu’n arbenigwr ffitrwydd a iechyd ar raglenni Radio Cymru.
Mae Rae yn gyd-berchennog ar gwmni ‘LiveFIT Wales/Cymru, sy’n cynnal dros 60 dosbarth iechyd a ffitrwydd yn fisol, yn ogystal a gosod her misol arlein i bobl ar draws y byd. Creodd raglen codi pwysau arbennig ar gyfer merched o’r enw LIFT, ac yn 2016 bu’n hyfforddi tîm o ferched dewr roedd wedi cwffio cancr y fron. Mae Rae hefyd yn arbennigwr iechyd a ffitrwydd QVC yn y DU.
Ar ôl genedigaeth drawmatig fy mab, nes i ddim edrych ar ôl fy hun am dros 4 mlynedd. Yn yr amser yna nes i fagu pwysau. Bron 6 stôn. Dim symud. Bwyta bwydydd doedd ddim yn iach ac edrych ar ôl pawb arall ond amdanaf i fy hun. Dyma beth mae peidio blaenoriaethu eich iechyd chi’ch hunan yn edrych fel…
Ionawr, 2007 (15st 11lbs)
