Y Tîm
Cyflwynydd: Lisa Gwilym
Dwi wrth fy modd yn cyflwyno FFIT Cymru ac yn helpu’r 5 Arweinydd i drawsnewid eu bywydau. Mae’r ddwy gyfres gyntaf wedi profi bod modd gwneud hynny drwy symud mwy, bwyta’n iach a newid eich ffordd o feddwl er mwyn byw bywyd hapusach a gwell.
Fedrai’m disgwyl i gyfarfod ein 5 Arweinydd newydd a chael bod yn ran o’r siwrne gyffrous sydd o’u blaenau. Mae’n gyfle gwych a mi fyddai yno pob cam o’r ffordd i fod yn gefn a gafael llaw. Cofiwch bod modd i bawb ddilyn y cynllun – cadwch yn Ffit Cymru!
Mae Lisa Gwilym yn ol i gyflwyno FFIT Cymru.
Mae’r gyflwynwraig brofiadol aml-gyfrwng, sydd yn wreiddiol o Henllan, Dinbych ond bellach yn byw yn Y Felinheli, yn edrych ymlaen at yr her ac yn barod i fod yn ffrind cefnogol i’r pump fydd yn cymryd rhan yn y gyfres.
Yn meddu ar radd Seicoleg o Brifysgol Caerdydd, mae Lisa yn barod i fod yn glust ac yn gefn i’r pump fydd ar daith o newid eu bywyd er gwell. Bydd hefyd yn dod i wybod mwy am rai ymgyrchoedd iechyd yng Nghymru fydd yn digwydd yn ystod y Gwanwyn.
Gallwch ddilyn profiadau FFIT Cymru Lisa a’i thaith ffitrwydd bersonol ar ei ffrwd Twitter ac Instagram – @lisagwilym
