Y Tîm
Seicolegydd: Dr Ioan Rees PhD
Lle bynnag mae’r meddwl yn mynd, mae’r corff yn dilyn”. Ac felly mae gofalu am ein hiechyd-meddwl a’n lles-emosiynol yn hanfodol bwysig er mwyn byw bywyd llawn, hapus ac iach. Fel seicolegydd a chystadleuydd Ironman, rwyf wedi darganfod fod datblygu meddylfryd cadarnhaol a gwydn yn helpu pobl i gyflawni mwy nag y credent oedd yn bosibl.
Yn enedigol o Gaerfyrddin, bydd gwrandawyr Radio Cymru wedi ei glywed droeon yn trafod materion seicolegol ar raglenni’r orsaf. Y mae’n Seicolegydd Siartredig gyda Chymdeithas Seicolegwyr Prydain ac yn Seicolegydd Cofrestredig gyda’r HCPC (Health and Care Professionals Council). Mae Ioan hefyd yn Gymrawd Hyfforddedig Achrededig (AFC), y lefel uchaf o hyfforddwr gyda’r “Awdurdod Rhyngwladol ar gyfer Hyfforddi a Mentora Proffesiynol” (IAPCM) ac yn Uwch Hyfforddwr Arweinyddiaeth Systemau i Lywodraeth Cymru.
Ar Ă´l trawsnewid ei fywyd ei hun trwy fwyta’n iach ac ymarfer corff, collodd Dr Ioan 6 stĂ´n dros gyfnod o 9 mis a chwblhaodd ei driathlon Ironman cyntaf. Mae bellach wedi cwblhau chwe Ironman llawn ac erbyn hyn wedi troi ei sylw at fyd rheded Ultras. Y mae’n cael pleser a boddhad proffesiynol a phersonol pellach o gyfuno ei brofiadau â dulliau seicolegol i helpu eraill i ddod o hyd i ffordd iach a chadarnhaol o fyw er mwyn goresgyn heriau bywyd
