S4C

Navigation

Ffitrwydd. Iechyd. Trawsnewid

Y Tîm

Dietegydd: Beca Lyne-Pirkis

“Mae bwyd yn rhan hanfodol o be allai roi cyngor arno fe fel arbenigwr ond hefyd, dwi’n fam, dwi’n wraig, dwi’n gweithio, dwi’n berson sy’n caru ymarfer corff ac sy’n mwynhau hyfforddi ar gyfer sawl ras a sialensau gwahanol.’Ry’ ni fel arbenigwyr yn rhannu ein profiadau personol ni i helpu dylanwadu a dangos y ffordd. Dwi’n fam brysur ac weithiau mae’n anodd cael cydbwysedd, ond gallai brofi os ydach chi’n cynllunio a bod yn drefnus, does dim rheswm na allech chi fod yn llwyddiannus.”

Mae Beca Lyne-Pirkis o Gaerdydd yn gogydd adnabyddus sydd wedi cyflwyno cyfresi coginio ar S4C a chyrraedd rowndiau cyn-derfynol y gyfres The Great British Bake Off. Mae wedi treulio’r tair blynedd diwethaf yn astudio maetheg ym Mhrifsygol Caerdydd ac wedi cymhwyso i fod yn ddietegydd fis Gorffennaf 2022.

“Fi jyst eisiau cael yr arweinwyr i ddeall bwyd ychydig yn well, a gweld sut mae rhoi gymaint o bethau da yn eich corff yn gallu helpu eich iechyd. Dwi hefyd eisiau ysbrydoli hefo ryseitiau a syniadau gwahanol, i ddod a’r excitement yna nĂ´l fewn i goginio a bwyta”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?

Gwefan Newydd